Gwybodaeth yn y Gymraeg
Oherwydd cyfyngiadau ariannol dydi’r wefan hon ddim yn gwbl ddwyieithog ar hyn o bryd. Rydym yn gweithio tuag at gael gwefan ddwyiwithog yn y dyfodol.
Amdanom Ni
Cyngor Ffoaduriaid Cymru yw’r brif asiantaeth sector gwirfoddol sy’n gweithio gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw rhoi grym i ffoaduriaid a cheiswyr lloches ailafael yn eu bywydau. Rydym yn gwneud hyn drwy roi cyngor a gwybodaeth uniongyrchol iddynt, darparu amrywiaeth o wasanaethau cymorth arbenigol a dadlau dros hawliau ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Ers ei sefydlu yn 1990, mae’r sefydliad wedi tyfu i ymateb i’r galw am ein gwasanaethau. Erbyn hyn, mae gennym swyddfeydd ar draws Cymru yng Nghaerdydd (y brif swyddfa), Casnewydd, Abertawe a Wrecsam. Rydym yn sefydliad seiliedig ar aelodaeth sy’n cael ei lywodraethu gan Fwrdd o Ymddiriedolwyr. Mae cynrychiolwyr ar ran ffoaduriaid ar y Bwrdd yn ogystal ag unigolion ymrwymedig eraill gydag ystod o sgiliau ac arbenigeddau.
Ein Gwaith
Drwy ein gwaith rydym yn rhoi’r grym i ffoaduriaid a cheiswyr lloches ailafael yn eu bywydau yng Nghymru drwy gyfrwng:
Gwybodaeth, cyngor a chymorth uniongyrchol
Mae ein tîm o weithwyr achos yn ein swyddfeydd yn y pedair ardal wasgaru yng Nghymru yn darparu gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chymorth i geiswyr lloches a ffoaduriaid.
Gwasanaethau arbenigol
Rydym hefyd yn darparu gwasanaethau arbenigol mewn meysydd allweddol gan gynnwys mynediad i dai, gofal iechyd a hyfforddiant, gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli. Rydym yn gweithio’n agos â Sefydliadau o’r Gymuned Ffoaduriaid, gan gyfrannu at ddatblygu cymunedol a helpu i feithrin gallu. Mae gennym rôl bwysig hefyd i gryfhau’r cysylltiadau rhwng y cymunedau lleol a chymunedau ffoaduriaid.
Ymgyrchu
Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn ymgyrchu i hybu hawliau ceiswyr lloches a ffoaduriaid, nid yn unig yng Nghymru ond yn y DU gyfan. Rydym yn addysgu pobl am fywyd pob dydd ffoaduriaid yng Nghymru. Gan gydweithio gyda phartner-sefydliadau a grwpiau gwirfoddol a chymunedol, rydym yn dylanwadu ar bolisi fel bod pawb sy’n dod i Gymru i geisio cael diogelwch rhag erledigaeth yn cael eu trin ag urddas a pharch ac yn gallu gwneud cyfraniad llawn at y gymdeithas yng Nghymru.
Sut Gallwch Chi Helpu
Gallwch ein helpu ni mewn llawer o ffyrdd i alluogi ffoaduriaid i ailafael yn eu bywydau yng Nghymru. Dyma rai enghreiffiau:
Gwirfoddoli
Mae ein gwirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad mawr a gwerthfawr. Maen nhw’n ymwneud â phob agwedd ar y gwaith, o ymchwilio ar ran y tîm polisi i waith trefnu yn ystod Wythnos y Ffoaduriaid. Linciwch i dudalen gwirfoddoli.
Ymgyrchu
Os hoffech ein helpu i ymgyrchu dros wella bywydau ceiswyr lloches a ffoaduriaid, cofrestrwch i dderbyn gwybodaeth am ein hymgyrchoedd yn rheolaidd. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y materion sy’n effeithio ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru ac yn anfon negeseuon a cheisiadau i weithredu yn rheolaidd. Linciwch i dudalen ymgyrchu.
Rhoi
Gyda’ch cefnogaeth chi, gallwn helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i ddechrau ailafael yn eu bywydau yng Nghymru. Mae rhodd yn gwneud gwahaniaeth ymarferol i’r rhai sy’n dianc rhag rhyfel, artaith a chamdriniaeth. Linciwch i dudalen rhoi.
Aelodaeth
Drwy ddod yn aelod corfforaethol neu’n aelod unigol o Gyngor Ffoaduriaid Cymru, gallwch fynegi’ch barn ar ddyfodol ein sefydliad. Yn ogystal â rhoi cefnogaeth ariannol, mae’r aelodau’n ein helpu i ddatblygu ac ymestyn ein gwasanaethau a’n projectau. Linciwch i dudalen aelodaeth.
Mwy o wybodaeth
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am Gyngor Ffoaduriaid Cymru, cofrestrwch ar ein gwefan yn www.welshrefugeecouncil.org neu llenwch y ffurflen isod. Linciwch i dudalen mwy o wybodaeth.
ymbweru ffoaduriaid
a cheiswyr lloches i
ailadeiladu eu bywydau
yng nghymru
Manylion cyswllt
ymholiadau cyffredinol
Ffôn: 029 2048 9800
Ffacs: 029 2043 2980
Ebost: info@welshrefugeecouncil.org
Manylion Cyswllt Bellach


